Ynglyn â’r swydd
Mae gan lywodraethwyr ysgol rôl amrywiol a phwysig…
… yn helpu’r ysgol i redeg yn effeithiol. Mae ganddyn nhw 3 swyddogaeth graidd:
- Cynllunio cyfeiriad strategol yr ysgol.
- Goruchwylio perfformiad ariannol yr ysgol a sicrhau bod arian yn cael ei wario’n dda.
- Dal y pennaeth neu’r arweinyddiaeth ysgol i gyfrif.
Mae rôl y llywodraethwr yn strategol yn hytrach nag yn weithredol. Nid yw llywodraethwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o redeg ysgol o ddydd i ddydd, yn hytrach maen nhw’n cefnogi ac yn herio tîm arweinyddiaeth yr ysgol i hybu gwelliant ysgol.
Mae llywodraethwyr fel arfer yn mynychu tua 6 cyfarfod y flwyddyn. Mae bod yn llywodraethwr ysgol yn ymrwymiad ac yn gyfrifoldeb, ond mae’n cynnig cyfle i chi weld yn uniongyrchol yr effaith y gallwch ei chael wrth wella addysg i blant yn eich cymuned.
I wneud cais i ddod yn llywodraethwr, naill ai cwblhewch ein ffurflen ar-lein, neu lawrlwythwch a chwblhewch fersiwn Cymraeg.
Gwnewch gais am fod yn llywodraethwr